Hafan | English

 

Chwilio am betha yng Nghaernarfon

Petha i brynu
Petha i fwyta ac yfed
Petha i'w gweld a'u gwneud
Llety
Gwasanaethau
Busnes i fusnes

Mân hysbysebion AM DDIM

--------------------------

Ynghylch Caernarfon
Oriel ffotograffau
Gwasanaethau lleol
Digwyddiadau Caernarfon

--------------------------

Ynghylch Petha Caernarfon
Hysbysebu
Cwestiynau

--------------------------

Blog Petha Caernarfon

Gwaith Llechi Inigo Jones

Categorïau: Celf a chrefft lleol, gweithdai ac ystafelloedd arddangos, tai bwyta a chaffis

Cyfreiriad Tudor Slate Works, Y Groeslon, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7UE
Ffôn 01286 830 242
Ebost slate@inigojones.co.uk
Gwefannau Gwaith Llechi Inigo Jones
Oriau 9yb-5yh bob dydd, gan gynnwys penwythnosau, heblaw 25/26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Lawr lwythiadau Bwydlen Welsh Rock Cafe
Geriau allweddol Llechen Cymreig, matiau bwyta llechen, anrhegion allan o lechen, enwau ar lechen, eitemau arbennig allan o lechen

Ynghylch Gwaith Llechi Inigo Jones

Sefydlwyd Gwaith Llechi Inigo Jones ym 1861 yn wreiddiol ar gyfer creu llechi ysgrifennu ar gyfer ysgolion. Heddiw mae’r cwmni yn dal i ddefnyddio yr un deunydd amrwd sef llechen Cymreig 500 miliwn o flynyddoedd oed ac yn cynhyrchu deunyddiau amaethyddol, coffadwriaethol, tirlun a chrefftau. Cynhyrchir y rhan fwyaf o’r cynnyrch yn ol archeb, ond mae gan y cwmni hefyd ystafell arddangos  helaeth sydd yn gwerthu amrywiaeth o nwyddau llechi safonol, gan gynnwys crefftau Cymraeg ac eitemau Celtaidd.

Cynhyrchir nifer o eitemau yn ol archeb. Gellir archebu cynnyrch amaethyddol er enghraifft  siliau, topiau, grisiau, lloriau ac aelwydydd. Mae’r deunyddiau coffadwriaethol yn cynnwys cerrig beddi, cawgiau a phlaciau amlosgiad. Mae’r cynnyrch tirlun yn cynnwys  cerrig man, bathiau adar, deialau haul ac arddangosfeydd dwr. Gellir hefyd  archebu placiau, enwau ar lechen a troffiau wedi eu argraffu.

Gan ei fod mor boblogaidd mae gan y cwmni daith hunandywys o gwmpas y gwaith llechi ble gellir gweld y gwahanol peiriannau a ddefnyddir i baratoi y llechen naturiol. Mae  ‘na hefyd arddangosfeydd daearegol,hanesyddol, caligraffi  a thorri llythrennau. Rhoddir y  cyfle i  chi gael tro ar argraffu ar ddarn o lechen a’i gadw wedyn fel anrheg i gofio am eich ymweliad. Mae ‘na hefyd cwis i blant gyda gwobr wedi ei wneud o  lechen.

Ar y safle mae’r caffi  Welsh Rock sydd yn rhoi hanes cerddoriaeth yng Nghymru. Darparir prydau ysgafn a byrbrydau yn y caffi drwy’r dydd.  Dros y ffordd iddo mae’r llwybr beicio Lon Eifion sydd yn rhedeg yr holl ffordd o Gaernarfon i Gricieth. Mae i ffwrdd o’r lon fawr ac yn saff i deuluoedd a phlant. Gellir llogi beiciau yng Nghaernarfon, dim ond 6 milltir i ffwrdd o waith llechi Inigo Jones.

Digon o leoedd parcio rhad ac am ddim a cyfleusterau i’r anabl.


Gweld map mwy