Hafan | English

 

Chwilio am betha yng Nghaernarfon

Petha i brynu
Petha i fwyta ac yfed
Petha i'w gweld a'u gwneud
Llety
Gwasanaethau
Busnes i fusnes

Mân hysbysebion AM DDIM

--------------------------

Ynghylch Caernarfon
Oriel ffotograffau
Gwasanaethau lleol
Digwyddiadau Caernarfon

--------------------------

Ynghylch Petha Caernarfon
Hysbysebu
Cwestiynau

--------------------------

Blog Petha Caernarfon

Palas Print

Categorïau: llyfrau, cardiau cyfarch, CDs

Cyfreiriad 10 Palace Street, Caernarfon, Gwynedd LL55 1RR
Ffôn 01286 674 631
Ebost siop@palasprint.com
Gwefannau Palas Print
Oriau Llun-Gwener: 9.30yb-6.00yh, Sadwrn: 9.00yb-5.30yh
Lawr lwythiadau  
Geriau allweddol Ffuglen Gymraeg, cerddoriaeth ddalen

Ynghylch Palas Print

Siop lyfrau annibynnol yw Palas Print o fewn muriau tref Caernarfon, wedi ei sefydlu ym mis Gorffennaf 2002 gyda llawer o help gan ein teulu a’n ffrindiau. Ers i ni agor rydym ni wedi tyfu’n gyson ac ym mis Awst 2005 fe symudom ni i’n safle parhaol mwy o faint yn Rhif 10, Stryd y Plas.

Rydym ni’n cynnig ystod eang o lyfrau newydd yn Saesneg a Chymraeg, ar gyfer oedolion a phlant, ynghyd â gwasanaeth chwilio ac archebu effeithiol ( y mwyafrif o’r llyfrau ar gael o fewn 24 awr).

Rydym ni hefyd yn cadw dewis helaeth o gryno ddisgiau, cardiau cyfarch, cerddoriaeth ddalen, a deunyddiau eraill, ac fe gynigiwn wasanaeth i ysgolion, llyfrgelloedd a digwyddiadau llenyddol yn lleol.

Rydym ni’n aml yn mwynhau cynnal dydd hwyl yn y siop pan wahoddir diddanwyr ac enwogion ym myd plant i ddarllen storïau, ac i wneud siopa’n brofiad mwy o hwyl.

Hefyd rydym ni’n cynnal nifer o ddigwyddiadau gyda’r nos, megis blasu te a choffi, yn ogystal â lansio llyfrau a sesiynau cerddorol.

Fe hoffem yn fawr eich gweld yn ymweld â’n siop.

Am fwy o wybodaeth amdanom, am beth yr ydyn ni’n ei wneud, yn ei argymell, ac am sut y gallwch brynu o’n siop ar-lein, cysylltwch â’n gwefan.

 


Gweld map mwy