Chwilio am betha yng Nghaernarfon
Petha i brynu
Petha i fwyta ac yfed
Petha i'w gweld a'u gwneud
Llety
Gwasanaethau
Busnes i fusnes
--------------------------
Ynghylch Caernarfon
Oriel ffotograffau
Gwasanaethau lleol
Digwyddiadau Caernarfon
--------------------------
Ynghylch Petha Caernarfon
Hysbysebu
Cwestiynau
--------------------------
Cwestiynau cyffredin
Oes gennych chi gwestiwn am hysbysebu ar Petha Caernarfon? Dylech ddod o hyd i’r ateb yma, ond os ddim, cysylltwch ar bob cyfrif ac fe wnawn ein gorau i helpu.
Cliciwch ar y dolenni isod i neidio i’r cwestiwn rydych chi am ei ofyn.
Beth yw’r buddion o hysbysebu ar Petha Caernarfon?
Beth os nad oes gennyf wefan i gysylltu iddi o fy mhroffil?
Beth yw’r gost o hysbysebu ar Petha Caernarfon?
Alla i dalu mewn rhandaliadau?
Alla i uwchraddio o gyfrif sylfaenol i gyfrif premiwm?
Alla i wneud newidiadau i fy mhroffil ar ôl iddo fynd yn fyw?
Pa fath o ddogfennau alla i ychwanegu at fy mhroffil?
Ni allaf weld is-gategori mae fy musnes yn ffitio i mewn iddo... beth nawr?
Beth yw’r buddion o hysbysebu ar Petha Caernarfon?
Eglurir y buddion o hysbysebu ar Petha Caernarfon mewn manylder ar ein tudalen hysbysebu, lle rydym hefyd wedi darparu llyfryn y gallwch ei lawr lwytho sy’n eich helpu i gymharu nodweddion, buddion a chostau ein pecynnau hysbysebu.
Beth os nad oes gennyf wefan i gysylltu iddi o fy mhroffil?
Gallwch greu dolen i wefan arall yn lle. Er enghraifft, os oes gennych dudalen Facebook, blog, proffil Busnes Lleol Google, neu broffil ar gyfeiriadur busnes ar lein, gallwch greu dolenni i’r rhain yn lle.
Beth yw’r gost o hysbysebu ar Petha Caernarfon?
Mae proffil sylfaenol yn costio £295 yn y flwyddyn gyntaf, yna mae ffi adnewyddu o £145 y flwyddyn ar ôl hynny. Mae proffil premiwm yn costio £495 yn y flwyddyn gyntaf, yn cael ei ddilyn gan ffi flynyddol o £195 ar ôl hynny.
Alla i dalu mewn rhandaliadau?
Gallwch dalu ffi chwarterol yn lle, ond mae costau gweinyddu ychwanegol gyda hynny, felly byddai’r pris ychydig uwch petaech yn dewis talu fel hyn.
Proffil Sylfaenol: £85 y chwarter yn y flwyddyn gyntaf (cyfanswm: £340), a £45 y chwarter wedyn (cyfanswm: £180)
Proffil premiwm: £135 y chwarter yn y flwyddyn gyntaf (cyfanswm: £540), a £60 y chwarter ar ôl hynny (cyfanswm: £240)
Alla i uwchraddio o gyfrif sylfaenol i gyfrif premiwm?
Gallwch. Os byddwch yn penderfynu hanner ffordd drwy’r flwyddyn yr hoffech uwchraddio, fe wnawn weithio allan faint fydd y gost ychwanegol, ac anfon anfoneb atoch am y swm hwn.
Alla i wneud newidiadau i fy mhroffil ar ôl iddo fynd yn fyw?
Gallwch, gallwch wneud newidiadau bach o fewn rheswm. Er enghraifft, os oes arnoch angen newid eich manylion cyswllt, neu newid delwedd, fideo neu un o’ch dogfennau y gellir eu llawr lwytho, mae hyn yn iawn. Fodd bynnag, os bydd arnoch angen gwneud newidiadau arwyddocaol i brif gorff y testun ar eich proffil, bydd raid i ni godi tâl uwch arnoch i dalu ein costau.
Am y rheswm hwn, rydym yn eich cynghori’n gryf i brawf-ddarllen yr wybodaeth ar eich proffil yn ofalus cyn i chi ei anfon atom i’w gyhoeddi.Pa fath o ddogfennau alla i ychwanegu at fy mhroffil?
Yn ddelfrydol, dylech safio eich dogfennau i’w llawr lwytho ar ffurf PDF (gallwch ddefnyddio offeryn fel CutePDFi greu eich ffeil).
Gallwch, er enghraifft, sganio eich bwydlen neu restr brisiau, neu eu haildeipio ar raglen prosesu geiriau megis Microsoft Word a’u safio fel dogfennau PDF.
Neu, os ydych yn dosbarthu llyfrynnau, taflenni neu gwponau arian i ffwrdd i gwsmeriaid, gallwch sganio’r rhain, eu safio fel PDF a’u cynnwys ar eich proffil.
Mae cynnig dogfennau y gellir eu llawr lwytho yn ffordd ardderchog o ymestyn faint o wybodaeth sydd ar gael i gwsmeriaid sy’n ymweld â’ch tudalen proffil, ac mae’n gynwysedig yn y pris - felly cymerwch fantais ohono.
Os ydych yn gwbl styc a hoffech i ni greu dogfennau y gellir eu llawr lwytho ar eich cyfer, cysylltwch â ni am bris.Ni allaf weld is-gategori mae fy musnes yn ffitio i mewn iddo... beth nawr?
Gadewch i ni wybod pa is-gategoriau sy’n disgrifio gweithgareddau eich busnes orau, ac fe wnawn ni eu creu ar eich cyfer.
Tanysgrifiwch i'n taflen newyddion i gael y newyddion diweddaraf am Gaernarfon
Wnawn ni byth rannu eich manylion cyswllt gydag unrhyw un arall.
Dilynwch Petha Caernarfon
Tweet o'r dudalen hon
Ein Tweet diweddaraf: