Hafan | English

 

Chwilio am betha yng Nghaernarfon

Petha i brynu
Petha i fwyta ac yfed
Petha i'w gweld a'u gwneud
Llety
Gwasanaethau
Busnes i fusnes

Mân hysbysebion AM DDIM

--------------------------

Ynghylch Caernarfon
Oriel ffotograffau
Gwasanaethau lleol
Digwyddiadau Caernarfon

--------------------------

Ynghylch Petha Caernarfon
Hysbysebu
Cwestiynau

--------------------------

Blog Petha Caernarfon

Pobl a hanes Caernarfon

Wedi’i gefeillio gyda Landerneau yn Llydaw, Tref Frenhinol Caernarfon yw tref sirol draddodiadol y Sir Gaernarfon hanesyddol. Mae Caernarfon yn gorwedd y tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri, y parc cenedlaethol mwyaf yng Nghymru sydd yn 840 milltir sgwâr (2175km²).

Mae poblogaeth Caernarfon, ynghyd â threfi cyfagos Y Felinheli a Phenygroes, yn tua 14,000, a dyma’r gymuned â’r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru gyfan - yn ôl Cyfrifiad 2001 y DU. Gall 86.1% o’r boblogaeth yn ardal Caernarfon siarad Cymraeg. Ar lafar, gelwir trigolion Caernarfon yn "Gofis", a defnyddir y gair "cofi" hefyd weithiau i ddisgrifio’r dafodiaith Gymraeg leol.

Cynhanes

Mae 31 cerrig, neu gromlechi, sy’n 4,000 mlwydd oed, yn yr siambr gladdu  yng Nghlynnog Fawrardal sy’n cael ei orchuddio gan yr hen Sir Gaernarfon. Mae safleoedd cynhanes yn ardal Caernarfon yn cynnwys maen hir yng Nglynllifon, siambr gladdu hynafol yng Nghlynnog Fawr (yn y llun), a bryngaer Oes Haearn yn Ninas Dinlle. Mae darnau o grochenwaith Rhufeinig a ddarganfuwyd yn Ninas Dinlle yn awgrymu yr ailfeddiannwyd y fryngaer yn yr ail neu’r drydedd ganrif OC.

Y Rhufeiniaid

Y Rhufeiniaid a adeiladodd Segontium, un o’r caerau Rhufeinig mwyaf yng Ngogledd Cymru, yn 77OC. Wedi’i sylfaenu gan Julius Agricola, cynlluniwyd y gaer i letya 1,000 o ddynion. Adeiladwyd Segontium yn wreiddiol allan o bren ond fe’i ailadeiladwyd mewn carreg oddeutu 140OC. Defnyddiwyd y safle o’r ganrif gyntaf OC tan tua 395OC - yn hirach nag unrhyw gaer Rufeinig arall yng Nghymru.

Caernarfon Canoloesol

Mae Castell Caernarfon a muriau’r dref yn safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Cynlluniwyd y castell Castell Caernarfongan y Meistr James o San Siôr, efallai’r adeiladwr mwyaf clodfawr ei gyfnod, ar orchymyn Brenin Edward I o Loegr. Dinistriodd Edward y setliad Cymreig gwreiddiol a dechreuodd weithio ar y dref newydd, ei muriau a’r castell, ym 1283. Parhaodd y gwaith tan 1322, er dywedir na chwblhawyd y castell. Mae cofnodion cyfoes yn dangos fod y castell wedi costio £22,000 i’w adeiladu - mwy nag incwm blwyddyn i’r trysorlys brenhinol ar y pryd.

Caernarfon oedd prif dref Edward yng Nghymru, ond nid oedd y castell wedi’i gynllunio i fod yr un mwyaf amddiffynnol o “gylch haearn” Edward o gestyll a oedd yn ymestyn ar draws Gogledd Cymru; fe’i gynlluniwyd i ddangos pŵer a fyddai’n darostwng y Cymry gwrthryfelgar. Dywed y chwedl, oherwydd bod y boblogaeth Gymraeg lleol eisiau Tywysog Cymru oedd â chymeriad hen ei fai, wedi’i eni yng Nghymru a heb fod yn siarad gair o Saesneg, gwnaeth Edward I yn siŵr y ganwyd ei fab - Edward II y dyfodol - yng Nghastell Caernarfon, fel bod y Cymry, mewn rhyw ffordd yn cael y Tywysog Cymru a ofynnant amdano.

Caernarfon fodern

Ym 1911 arwisgwyd y Tywysog Edward - Brenin Edward VII y dyfodol - yn Dywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon, ac ym 1969 y castell oedd safle arwisgo Charles, Tywysog Cymru.

 

Gwybodaeth bellach

Os hoffech wybod mwy am hanes Caernarfon gallwch ymweld â’r dolenni canlynol, sy’n agor mewn ffenestri newydd (neu dabiau, os ydych yn defnyddio porwr tabiau).

Mae Castle Wales yn cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am Gastell Caernarfon a hanes y dref.

I ddysgu mwy am Gaer Rufeinig Segontium a’i hamgueddfeydd, ewch i wefan Segontium.

Mae gan wefan y BBC lawer o wybodaeth am Gaernarfon, gan gynnwys taith o amgylch Castell Caernarfon.

Gallwch ddod i wybod mwy am Gastell Caernarfon yn Cadw, gan gynnwys oriau agor a phrisiau mynediad.

Darllenwch am statws Treftadaeth y Byd Caernarfon yng ngwefan UNESCO.

Dewch i wybod mwy am Gaernarfon yng ngwefan Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon.

Os ydych yn ymwelydd â’r ardal a hoffech ddysgu ychydig o Gymraeg cyn ymweld, mae gwefan BBC Learn Welsh a gwefan Clwb Malu Cachu yn cynnig adnoddau a chefnogaeth ardderchog ar gyfer dysgwyr Cymraeg.