Hafan | English

 

Chwilio am betha yng Nghaernarfon

Petha i brynu
Petha i fwyta ac yfed
Petha i'w gweld a'u gwneud
Llety
Gwasanaethau
Busnes i fusnes

Mân hysbysebion AM DDIM

--------------------------

Ynghylch Caernarfon
Oriel ffotograffau
Gwasanaethau lleol
Digwyddiadau Caernarfon

--------------------------

Ynghylch Petha Caernarfon
Hysbysebu
Cwestiynau

--------------------------

Blog Petha Caernarfon

Ynghylch Petha Caernarfon

 

Mae Petha Caernarfon yn rhoi cyfle i fusnesau yn ardal Caernarfon gael eu darganfod gan breswylwyr lleol ac ymwelwyr, ac i gyfathrebu gyda nhw ar lein.

Gall hybu busnes fod yn gostus iawn. Mae angen i fusnesau fuddsoddi amser ac arian i gyfathrebu gyda chwsmeriaid, er mwyn goroesi a thyfu. Mae Petha Caernarfon yn helpu busnesau i wneud hyn, trwy ddarparu hysbysebu fforddiadwy sy’n cynnwys nodweddion i helpu busnesau lleol i gyfathrebu gyda’u cwsmeriaid:

*Mae rhai nodweddion ar gael gyda chyfrif hysbysebu premiwm yn unig. Ewch i’n tudalen hysbysebu am fanylion llawn.

 

Mwy na chyfeiriadur busnes

Yn fras, gallwch ddweud fod Petha Caernarfon yn gyfeiriadur busnes. Fodd bynnag, rydym ni’n credu ei fod yn llawer mwy na hynny... ein gweledigaeth ar gyfer Petha Caernarfon yw y bydd yn dod yn ganolbwynt y gymuned leol, a'r lle i fynd pan fyddwch yn chwilio am wybodaeth am betha i’w gwneud, eu gweld a’u prynu yng Nghaernarfon.

Mae Petha Caernarfon yn darparu cyfleoedd hysbysebu cystadleuol i fusnesau lleol.

Ond mae’r safle hefyd yn adnodd gwerthfawr ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr sydd eisiau gwybod mwy am le i siopa, bwyta ac ymweld yn ardal Caernarfon.

Mae’r iaith Gymraeg yn iaith a siaredir yn eang yn ardal Caernarfon, ac rydym yn ymrwymedig i ddarparu ein gwasanaethau 100% yn ddwyieithog i sicrhau fod Petha Caernarfon mor ddefnyddiol i breswylwyr lleol ag ydyw i dwristiaid ac ymwelwyr eraill. Nid oes unrhyw gyfeiriadur busnes arall yng Nghaernarfon sy’n gwneud hyn.

 

Ein busnes

Mae Petha Caernarfon a Caernarfon Things yn eiddo i ac yn cael ei reoli gan Petha Ltd, cwmni cyfyngedig wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cofrestru cwmni 06868638.

Perchnogion Petha Ltd yw Wyn Roberts, cyfarwyddwr reolwr Marchnata AQUA Marketing Ltd yng Nghaernarfon, a Debs Williams, cyfarwyddwr reolwr debbidoo Ltd yng Nghlynnog Fawr.

Mae Wyn a Debs yn weithwyr proffesiynol marchnata cymwys a phrofiadol ac yn aelodau o Sefydliad Siartredig Marchnata.

 

Cysylltu â Petha Caernarfon

Ewch i’n tudalen gyswllt os hoffech gysylltu â ni.